Main Content
Ein hymrwymiad i chi
Fe newidiwn un o'ch setiau teledu i ddigidol. Gallwch ddewis pa gyfarpar a osodir gennym yn eich cartref ac fe wnawn yn siwr eich bod yn hapus â'r ffordd y mae'n gweithio.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ardderchog ac addas ar eich cyfer i chi, a byddwn bob amser yn dangos parch tuag atoch.
Mae eich lles yn bwysig iawn i ni a'n nod yw cynnig:
- Cynghorwyr wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnig gwasanaeth cwsmer, i ateb eich galwad
- Nifer o ffyrdd o sicrhau eich bod yn gwybod pryd fyddwn ni'n galw i ddod â'ch cyfarpar neu i'w osod
- Gweithwyr a chludwyr sydd wedi cael gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol , yn cario cardiau adnabod Cynllun Cymorth i Newid ac mewn gwisg arbennig.
- Cyfrinair os gofynnwch am un i'ch sicrhau chi bod y gweithiwr yn ddilys
- Gwarchodwr os gofynnwch am un, os ydych chi'n bryderus ynglŷn â gweithiwr neu gludydd yn dod i'ch cartref
Gallwch hefyd ddweud wrthym os hoffech i rywun arall fod gyda chi pan fyddwn yn dod â'ch cyfarpar (ffrind, efallai, neu berthynas, cyfathrebydd, neu ofalwr). Gallwn gysylltu â nhw i drefnu hyn ar eich cyfer os gofynnwch i ni wneud.
Os hoffech wybod mwy am ein hymrwymiad i chi gallwch ofyn i ni am gopi o'n Safonau Cod Gwasanaeth. Ffoniwch ni 0800 40 85 904 neu ffon testun 0800 40 85 936.



