Help Scheme for Digital Television

Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Esbonio'r Cynllun Cymorth

Rydym wedi cael ein ffurfio i helpu pobl i newid un o'u setiau teledu i ddigidol. Os ydych chi yn gymwys ar gyfer ein help, fe esboniwn ni deledu digidol yn glir ac yn syml i chi. Gallwn osod yr hyn sydd ei angen arnoch yn eich cartref a gwneud yn siwr eich bod yn hapus â'r ffordd mae'n gweithio.

  • byddwn yn darparu cyfarpar hawdd ei ddefnyddio ac addas ar eich cyfer
  • byddwn yn helpu i osod y cyfarpar yn eich cartref
  • byddwn yn gosod dysgl neu erial newydd, lle y gallwn, os oes angen i sicrhau bod y cyfarpar newydd yn gweithio
  • byddwn yn dangos mewn ffordd hawdd ei ddeall sut mae'r cyfan yn gweithio.
  • a bydd rhywun wrth law y gallwch alw arno am gymorth tra byddwch yn cyfarwyddo â phethau.

Bydd dros saith miliwn o gartrefi yn y DU yn gymwys i dderbyn cymorth. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth byddwn yn cysylltu â chi'n bersonol mewn da bryd i ofyn a ydych angen ein cymorth.

Llyfryn safonau cod gwasanaeth (290kB PDF)

STV North - Shetland STV North STV Central Ulster Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man