Help Scheme for Digital Television

Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Am y Cynllun Cymorth i Newid

Ar gyfer beth mae'r Cynllun Cymorth i Newid?

Mae'r Cynllun Cymorth i Newid wedi'i sefydlu gan y BBC, trwy drefniant â'r Llywodraeth, i gynnig help ymarferol i bobl hŷn ac i'r anabl sy'n wynebu mwy o broblemau yn ystod cyfnod y newid i deledu digidol.

Pwrpas y Cynllun Cymorth yw gwneud pob ymdrech i sicrhau y gall pawb sy'n gymwys barhau i wylio sianeli teledu'r gwasanaeth cyhoeddus ar ôl y newid.

Bydd y Cynllun Cymorth yn cynnig help i bob cartref sy'n gymwys, i newid un set deledu i ddigidol, a hyn yn cynnwys cyfarpar, cymorth i'w osod yn ei le ac ôl-ofal.

Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw'n 75 oed neu fwy, os ydyn nhw wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy neu os ydyn nhw wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall.

Gofynnir i'r mwyafrif o bobl i gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae'r gwasanaeth am ddim i bobl sy'n gymwys ac hefyd yn derbyn credyd pensiwn, cymhorthdal incwm, neu lwfans ceisio gwaith seiliedig ar incwm.

Pwy sy'n gweithredu'r Cynllun Cymorth?

Mae'r BBC wedi sefydlu DSHS Cyf, is-gorff a berchnogir yn gyfangwbl i weinyddu'r Cynllun Cymorth i Newid ac fe'i lleolir yn Swyddfeydd y BBC yn White City, 201 Wood Lane, Llundain W12 7TS. Peter White yw Prif Weithredwr y Cynllun Cymorth a DSHS Cyf.

Mae DSHS wedi contractio'r darparwr gwasanaeth eaga plc i ddarparu'r gwasanaeth i'r bobl sy'n gymwys yn ystod y newid. Apwyntiwyd eaga yng ngwanwyn 2008 ar ôl proses caffael drylwyr a thrafodaethau cystadleuol.

Mae Digital UK yn rhedeg yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth am y Cynllun Cymorth i Newid. Digital UK yw'r sefydliad annibynnol nad yw'n gwneud elw a sefydlwyd yn 2005 i weithredu'r newid i ddigidol. Fe'i perchnogir a'i ariannu ar y cyd gan y gwasanaethau darlledu cyhoeddus (BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletestun), a'r gweithredwyr digidol amlbleth.

Polisiau Allweddol y Cynllun Cymorth i Newid

Mae'r polisiau wrth wraidd y Cynllun Cymorth wedi'u gosod allan mewn Cytundeb Cynllun.

Mae'r Cynllun Cymorth yn ymrwymedig i reoli gwasanaeth sydd yn darparu yn y ffordd orau posibl ar gyfer amrywiol anghenion y bobl sy'n gymwys. Gosodir hyn allan yn y Safonau Cod Gwasanaeth .

Rhaid i'r cyfarpar a ddarperir fel safonol trwy'r Cynllun Cymorth gwrdd â set oAnghenion Derbynydd Craidd a luniwyd i sicrhau ei fod yn cwrdd ag anghenion yr hŷn a'r anabl, fel dewislenni hawdd eu defnyddio, teclynnau pell reoli, y gallu i ailsganio a mynediad i wasanaethau defnyddiol gan gynnwys Clyw Ddisgrifio ac isdeitlo. Rheolir Anghenion y Derbynydd Craidd gan DCMS a'r BBC.

Mae'r Cynllun Cymorth i Newid wedi'i gynllunio'n arbennig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ac i'w gwneud hi'n hawdd i bawb ei ddefnyddio. Er enghraifft, ond i chi ofyn, mae holl ddeunydd gwybodaeth y Cynllun Cymorth yn cael ei ddarparu mewn fformatiau gwahanol e.e. Braille, Darllen Hawdd i bobl ag anawsterau dysgu neu brint bras, mewn fformat sain neu fideo mewn nifer o wahanol ieithoedd.

STV North - Shetland STV North STV Central Ulster Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man