Help Scheme for Digital Television

Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Cymuned

  1. Creu partneriaethau
  2. Gweithiwch gyda ni
  3. cysylltwch â ni

Creu Partneriaethau

I lawer o bobl mae teledu yn ffordd bwysig o dderbyn gwybodaeth am y byd y tu allan a gall y broses o newid o analog i ddigidol achosi pryder

Mae ein tîm o Gyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol yn gweithio ar lefel lleol gyda'r Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol a'r sector wirfoddol i adeiladu perthynas bositif gyda'r gymuned a sicrhau bod y Cynllun Cymorth yn cyrraedd y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Mae ein Rhwydwaith Partneriaeth nawr wedi'i sefydlu ac yn weithredol ar draws rhanbarth Border ITV ac rydym yn cynyddu nifer y Cyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol mewn ardaloedd eraill i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddatblygu rhwydweithiau newydd o bartneriaid sy'n uchel eu parch o fewn eu cymunedau

^ Nôl i dop y tudalen

Gweithio gyda ni

Bydd ein tîm o Gyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol yn hapus i weithio gydag amrywiol fudiadau lleol sefydledig i godi ymwybyddiaeth o'r Cynllun Cymorth i Newid.

Mae llawer o'r bobl a allai elwa o'r Cynllun Cymorth i Newid ymhlith y mwyaf bregus mewn cymdeithas. Gellwch ein helpu i gyrraedd y rhai sydd mewn angen trwy sicrhau bod y rhai y dewch i gysylltiad â nhw yn derbyn gwybodaeth am y Cynllun Cymorth ac yn gwybod ble i fynd am help. Os ydych chi'n gweithio yn y gymuned leol ac eisiau gwybod mwy am sut y gellwch ein helpu i gyrraedd y rhai sydd angen help, byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â'ch Cyd-gysylltydd Prosiect Rhanbarthol.

^ Nôl i dop y tudalen

Cysylltu â ni

Cyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol
ENW SWYDDOGAETH ARDAL / LLEOLIAD MANYLION CYSWLLT
Nicola Mather Rheolwraig Rhwydwaith Rhanbarth Border nicola.mather@eaga.com
Sumera Bashir Cyd-gysylltydd Prosiect Rhanbarthol Rhanbarth Border sumera.bashir@eaga.com
Teresa Thorne Cyd-gysylltydd Prosiect Rhanbarthol South West teresa.thorne@eaga.com

^ Nôl i dop y tudalen

STV North - Shetland STV North STV Central Ulster Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man